Grŵp rhanbarthol yw Ysgrifwyr De Cymru ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn caligraffeg a’r celfyddydau llythrennu.
Croesawn aelodau ar o draws De Cymru gan gynnwys caligraffwyr proffesiynol ac amaturiaid brwdfrydig a’r rhai sydd newydd ddechrau gwneud caligraffeg. Anelwn at sicrhau bod pawb yn datblygu eu caligraffeg ac yn cael hwyl wrth ei wneud. Felly, mwynhawn weithio gyda’n gilydd a chefnogi ein gilydd fel rydyn ni’n dysgu.
Rydyn ni’n cwrdd yng Nghanolfan Cymunedol Glais yn Abertawe. Fel arfer, rydyn ni’n cael pump neu chwe chyfarfod y flwyddyn, pedwar gweithdy gyda thiwtoriaid allanol sy’n adnabyddus yn y byd caligraffig a dau gyfarfod a arweinir gan aelodau lle rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, gan gynnwys ein cyfarfod blynyddol cyffredinol.
Ar hyn o bryd y pris aelodaeth yw £15 y flwyddyn. Gall costau gweithdai amrywio ond maent yn tueddu i fod tua £30 am y diwrnod. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swscribes1@gmail.com.
Nid ydy Ysgrifwyr De Cymru’n gwneud elw ac mae’n gysylltiedig â’r Calligraphy and Lettering Arts Society (www.clas.org.uk)